top of page

Parent and coach code of conduct

Cod ymddygiad Rhieni, gwarcheidwaid a gwylwyr

Inter Penarth fully supports the Football Association of Wales Safeguarding policy, practices and procedures and acknowledges that football parents, guardians and spectators have a fantastic opportunity to be a positive role model for the young people involved. We all have a responsibility to ensure that everyone involved in football finds it to be a fun, safe and positive experience.

 

Parents, guardians and spectators are expected to:

  • Show exemplary behaviour by respecting and appreciating match officials, opposition players, coaches, managers and spectators. -

  • Deliver and collect your child punctually before and after training, matches and club events.

  • Support and motivate all players, including the opposition, and encourage your child to do the same.

  • Encourage your child to obey the laws of the game and teach them that they can only do their best.

  • Never publicly criticise, ridicule or embarrass any children.

  • Ensure your child has kit and clothing appropriate to the environment and weather conditions. Ensure that proper sportswear and protective kit are provided and worn.

  • Disclose any medical concerns or changes in medical conditions to the Club Safeguarding Officer and the Team Manager.

  • Not place unnecessary pressure on your child or push them into activities they do not want to do. Applaud effort and good play.

  • Not to interfere with coach instructions and not to confuse the players by telling them what to do.

  • Encourage all children not to discriminate on the grounds of religious beliefs, race, gender, social classes or lack of ability.

  • Accept that striving to win is more important than winning itself. - Respect the decisions of the match officials.

  • Ensure that your child has read and understood their Code of Conduct.

  • Not to post anything inappropriate, or negative on social media which may bring the game into disrepute.

  • Display high standards, behave responsibly and never engage in or tolerate the use of foul, abusive, insulting or inappropriate words, behaviour or gestures.

  • Get Behind the Line and not enter the field of play without prior permission from the referee.

  • Make football fun

Mae InterPenarth AFC cefnogi ymgyrch ‘Tu ôl y Llinell, Tu ôl y Tîm’ Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn llawn ac yn cydnabod bod gan hyfforddwyr a gwirfoddolwyr pêl-droed gyfle gwych i fod yn ddylanwad cadarnhaol ar bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y gêm. Mae bob un ohonom ni’n gyfrifol am sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â phêl-droed yn mwynhau profiad hwyliog, diogel a chadarnhaol.

A fyddech cystal â dangos eich cefnogaeth dros fesurau Diogelu CBDC drwy lofnodi’r datganiad isod. Drwy lofnodi’r Cod Ymddygiad hwn, rydych chi’n dangos eich bod yn deall yr amodau canlynol, a gallai torri’r rhain arwain at gamau disgyblu.

 

Mae disgwyl i hyfforddwyr a gwirfoddolwyr:

  • Sicrhau diogelwch pob plentyn drwy oruchwylio yn effeithiol, cynllunio sesiynau hyfforddi ymlaen llaw a defnyddio dulliau diogel ar bob adeg.

  • Cael gwiriad DBS bob 3 blynedd, neu fel sy’n ofynnol, a chyflwyno eu tystysgrif DBS i CBDC.

  • Rhoi lles a diogelwch chwaraewyr uwch law datblygu perfformiad. Dylai lles plant ddod yn gyntaf bob tro.

  • Ymddwyn yn rhagorol ar bob adeg, drwy barchu swyddogion gemau, gwrthwynebwyr (chwaraewyr, rheolwyr a hyfforddwyr) a’r dorf.

  • Annog ac arwain chwaraewyr i gymryd cyfrifoldeb am eu perfformiad a’u hymddygiad eu hunain.

  • Trin pob chwaraewr yn gyfartal drwy gefnogi ac ysgogi pob un. Peidio â chael ffefrynnau. 

  • Rhoi’r cyfle i bob chwaraewr, waeth beth yw ei allu, i chwarae.

  • Annog pob plentyn i beidio â gwahaniaethu ar sail crefydd, hil, rhyw, dosbarth cymdeithasol neu ddiffyg gallu.

  • Peidio â chaniatáu unrhyw chwarae garw neu beryglus, bwlio, neu’r defnydd o iaith anweddus neu ymddygiad amhriodol.

  • Gwerthfawrogi ymdrechion yr holl chwaraewyr a pheidio â’u hyfforddi’n ormodol.

  • Derbyn bod ymdrechu i ennill yn bwysicach na’r ennill ei hun.

  • Ymdrechu i chwarae’n deg ar bob adeg – glynu at gyfreithiau ac ysbryd y gêm.

  • Bod yn gadarnhaol, yn hawdd sgwrsio â chi a chynnig canmoliaeth i hyrwyddo amcanion y clwb ar bob adeg.

  • Dangos safonau uchel, ymddwyn yn gyfrifol a pheidio byth â defnyddio neu ddioddef geiriau, ymddygiad neu ystumiau ffiaidd, sarhaus, amharchus neu amhriodol.

  • Aros y Tu ôl i’r Llinell a pheidio â chamu ar y cae chwarae heb ganiatâd ymlaen llaw gan y dyfarnwr.

  • Peidio â gadael i gyhuddiadau o gam-drin o unrhyw fath neu arfer gwael fynd heb gael eu herio neu eu cofnodi. Mae’n rhaid cofnodi digwyddiadau a damweiniau yn unol â gweithdrefnau’r clwb ac mae’n rhaid rhoi gwybod i rieni.

  • Peidio byth â defnyddio cosbau sy’n codi cywilydd ar chwaraewyr neu yn eu niweidio.

  • Trefnu gweithgareddau sy’n addas i allu, oedran ac aeddfedrwydd chwaraewyr.

  • Parchu a gwrando ar farn chwaraewyr.

  • Peidio â phostio unrhyw beth amhriodol neu negyddol ar y cyfryngau cymdeithasu a allai ddwyn gwarth ar y gêm.

  • Atal rhag ysmygu neu yfed alcohol yn ystod gweithgareddau’r clwb neu sesiynau hyfforddi. Bod yn ymwybodol o Bolisi, Gweithdrefnau ac Arferion Diogelu CBDC ac ymgymryd â’r cyfrifoldebau a amlinellir ynddynt, gan gynnwys canllawiau Cyfathrebu CBDC.

  • Peidio â cham-drin aelodau yn gorfforol, emosiynol neu rywiol.

  • Peidio â chael perthynas rywiol â pherson ifanc y maent yn gyfrifol amdanynt.

  • Sicrhau cyfrinachedd ynghylch gwybodaeth sensitif.

  • Peidio â threulio cyfnodau gormodol ar eu pen eu hunain â’r plant, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.

  • Peidio â rhoi cymorth cyntaf sy’n golygu dadwisgo plentyn, oni bai bod pobl eraill yn bresennol.

  • Meddu ar gymwysterau ac yswiriant dilys.

bottom of page